Y Cyfnod Sylfaen
Addysgir disgyblion y Cyfnod Sylfaen, sef rhwng 3 a 7 oed gan Mrs Murphy a Mr Edwards. Mae'r Cyfnod Sylfaen wedi rhannu i ddau ddosbarth ac mae'r disgyblion yn cael eu dysgu ar y cyd.
Ein prosiect y tymor yma yw:
Gwlad y Gân
Yn ystod hanner cyntaf y tymor mi fyddwn yn gwrando ar, yn adrodd ac yn ysgrifennu storiau. Pleidleisiodd y disgyblion i benderfynu ar stori i'w hastudio.
Mae'r disgyblion wedi dewis 'Y Tri Mochyn Bach' fel ein stori cychwynol. Er hyn, mi fyddwn ni hefyd yn edrych ar storiau sydd ddim mor draddodiadol!
Bwriada'r disgyblion i greu llyfr eu hunain yn llawn hoff storiau, printiadau a storiau gwreiddiol a greuwyd ganddynt.
Byddwn hefyd yn gweithio trwy'r sialens rhigwm - Pori Drwy Stori